|
|

Beth wnaethom ni ei ddysgu
Astudiodd yr hanesydd cymdeithasol Catrin Stevens (gweler llun) yr elfennau unigol a ddarganfuwyd drwy Ddiwrnod Hunaniaeth Cymru 2006 yn ogystal â’r cysylltiadau cyffredin o fewn yr ardaloedd daearyddol.
Darganfu fod “pobl ledled Cymru yn dal i uniaethu â’r ‘Filltir Sgwâr’, - syniad arbennig o Gymreig, sy’n ymwneud yn gyfan gwbl â’r dylanwadau ar garreg ein drws sy’n llunio ein hunaniaethau craidd. Mae’n amlwg fod awyrgylch gorfforol yn rhan allweddol o hyn ond dangosodd y fenter hefyd ei bod yn cynrychioli teulu, ffrindiau, arwyr lleol, diwydiant a hyd yn oed mân siarad pobl - yn llythrennol dyma’n treftadaeth yn un pecyn taclus.
“Wrth ymweld â gwahanol ardaloedd yng Nghymru dechreuais feddwl am eiriau fel ‘cynefin’ a ‘bro’ sy’n crynhoi’r berthynas rhwng pobl, eu hanes a’u diwylliant - ardal â’i phỳls arbennig ei hun.
“Mae’r holl gysyniadau hyn gyda’i gilydd yn golygu fod Diwrnod Hunaniaeth Cymru 2006 wedi profi mai’r elfennau hyn o dreftadaeth, amgylcheddau corfforol a pherthynas bersonol yw’r cwlwm pwysicaf sy’n ein huno ni fel cenedl - mae ein synnwyr o hunaniaeth yn lleol iawn ac, yn y pendraw, yn un personol.”
|
|
|