|

Agorodd
Rosemary Butler AC (uchod, ar y chwith), Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y
Gymraeg a Chwaraeon y Cynulliad, ddathliadau Diwrnod Hunaniaeth Cymru 2006
ym Marchnad Casnewydd ar 24 Tachwedd drwy siarad am hanes maith mewnfudiad
yn y ddinas a dylanwad amrywiaeth ethnig wrth greu treftadaeth fywiog ar y
cyd.
Bethan Elfyn,
DJ ar Radio 1 (uchod, ar y dde) a ddadorchuddiodd furlun Diwrnod Hunaniaeth
Cymru 2006 gyda Ms Butler, a chyfeiriodd at y gerddoriaeth Gymraeg oedd wedi
dylanwadu cymaint arni yn ei harddegau. Dyfynnodd eiriau’r grŵp Manic Street
Preachers fel prif ddylanwad ar ei synnwyr o falchder lleol wrth i’r band
newid sut yr oedd y cyfryngau yn amgyffred diwylliant Cymraeg a chyrraedd
cynulleidfa fyd-eang.
|